Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

2017 Medi

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Biliau Pwyllgor


Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.        Mae'r adroddiad yn argymell newidiadau i Reol Sefydlog 26 sy'n ymwneud â Biliau Pwyllgor. Mae'r newidiadau a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.

Cefndir

3.        Mewn llythyr diweddar at y Pwyllgor Busnes cynigiodd y Pwyllgor Cyllid y dylai Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod yn destun gwaith craffu Cyfnod 1 gan un o bwyllgorau eraill y Cynulliad, yn yr modd â Biliau nad ydynt yn Filiau pwyllgor. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn  bwriadu cyflwyno'r Bil hwn yn nhymor yr hydref 2017. Cytunodd y Pwyllgor Busnes o ran egwyddor ar 11  Gorffennaf y dylid cyfeirio Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at bwyllgor pwnc yng Nghyfnod 1 ac yn ôl at yr un pwyllgor yng Nghyfnod 2 oherwydd natur y Bil ac amgylchiadau'r broses o'i ddatblygu. 

 

4.        Fodd bynnag, ni fyddai'n bosibl cyferio'r Bil yn y fath fodd o dan y Rheolau Sefydlog presennol. Mae Rheol Sefydlog 26.82 yn nodi nad yw Rheolau Sefydlog 26.9 i 26.12 yn gymwys i Filiau pwyllgor. Mae hynny'n golygu na ellir cyfeirio Bil pwyllgor at bwyllgor cyfrifol ei ystyried ac adrodd ar ei egwyddorion cyffredinol. Felly, nid yw trafodion Cyfnod 1 ond yn cynnwys dadl yn y Cyfarfod Llawn, a gynhelir heb fod pwyllgor yn adrodd ar egwyddorion cyffredinol Bil.

Newidiadau arfaethedig 

5.        Nid yw'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud yn benodol â Biliau pwyllgor erioed wedi cael eu defnyddio ar eu ffurf bresennol.

 

6.        Y rheswm nad yw pwyllgorau'n ystyried Biliau o'r fath yng Nghyfnod 1 yw am fod pwyllgor sy'n cyflwyno Bil sy'n ymwneud â'i gylch gwaith yn debygol o:

-     fod wedi cwblhau o leiaf un ymchwiliad i bolisi cyhoeddus a/neu ymgynghoriad ar yr angen am ddeddfwriaeth; ac yn debygol o

-     fod mewn gwell sefyllfa nag unrhyw bwyllgor arall (y câi Bil pwyllgor ei gyfeirio ato fel arall) i benderfynu ynghylch yr egwyddorion cyffredinol, felly mae'n bosibl na fyddai ymchwiliad Cyfnod 1 yn ychwanegu llawer o werth.

 

7.        Yn ei lythyr diweddar at y Pwyllgor Busnes, awgrymodd y Pwyllgor Cyllid y dylid cyfeirio Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at bwyllgor pwnc yng Nghyfnod 1 ac yn ôl at yr un pwyllgor yng Nghyfnod 2 er lles arfer gorau a thryloywder. 

 

8.        Un ffordd o wneud hyn fyddai drwy atal Rheol Sefydlog 26.82 (ar yr amod bod mwyafrif o ddwy ran o dair o'r Aelodau'n cytuno â hynny yn y Cyfarfod Llawn). Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor Busnes o'r farn y byddai'n well newid y Rheol Sefydlog fel bod ganddo'r disgresiwn ar gyfer pob Bil pwyllgor i benderfynu a fyddai'n briodol cyfeirio Bil at bwyllgor yng Nghyfnod 1 ai peidio.

 

9.        Byddai'r Pwyllgor Busnes yn cael y disgresiwn hwnnw drwy gael gwared ar Reol Sefydlog 26.82, sy'n nodi'n benodol nad yw gwaith craffu Cyfnod 1 yn gymwys i Filiau pwyllgor.   Yna, byddai gan y Pwyllgor Busnes yr opsiwn o gyfeirio (neu beidio â chyfeirio) Bil pwyllgor at bwyllgor cyfrifol i graffu arno yng Nghyfnod 1. Yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.82, byddai Rheolau Sefydlog 26.80 a 26.84 yn cael eu dileu hefyd, a byddai'r cyfeiriadu at Reol Sefydlog 26.83 yn cael eu dileu o Reolau Sefydlog 26.13 ac 16.14.

 

10.     Cytunodd y Rheolwyr Busnes ym mis Gorffennaf 2017 y dylid cyflwyno'r newidiadau arfaethedig hyn i'r Cynulliad cyn cyflwyno Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a disgwylir i hynny ddigwydd ym mis Hydref.

 

Camau gweithredu

11.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 19 Medi 2017, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B. 

 


Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad

 

Cyfnod 1 – Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol

26.13

Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, 26.83 neu 26.102, mae’r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

 

Newid dilynol yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.83.

26.14

Os na fydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, 26.83 neu 26.102, mae’r Bil yn methu.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

 

Newid dilynol yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.83.

 

Biliau Pwyllgor

 

26.80   

Mae Rheolau Sefydlog 26.81 i 26.83 yn gymwys i Filiau pwyllgor yn unig.

Dileu'r Rheol Sefydlog

 

Newid dilynol yn sgil dileu Rheol Sefydlog 26.82, a Rheolau Sefydlog eraill a oedd yn ddibynnol arni. Nid oes angen y Rheol Sefydlog hon mwyach

28.81

Caiff unrhyw bwyllgor gyflwyno Bil pwyllgor sy’n ymwneud â chylch gorchwyl y pwyllgor.

 

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

 

26.82

Nid yw Rheolau Sefydlog 26.9 i 26.12 yn gymwys i Filiau pwyllgor.

 

Dileu'r Rheol Sefydlog

 

Bydd dileu'r Rheol Sefydlog hon yn galluogi'r Pwyllgor Busnes i benderfynu fesul achos a ddylid cyfeirio Bil pwyllgor at Bwyllgor arall i graffu arno yng Nghyfnod 1.  Felly, bydd yr un gweithdrefnau â Biliau eraill yn gymwys i Filiau pwyllgor.

26.83

Yng Nghyfnod 1, caiff yr Aelod sy’n gyfrifol am Fil pwyllgor gyflwyno cynnig bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Dileu'r Rheol Sefydlog

 

Ar ôl dileu Rheol Sefydlog 26.82, nid oes angen y Rheol Sefydlog mwyach gan y bydd Biliau pwyllgor yn ddarostyngedig i'r un gweithdrefnau â Biliau eraill yng Nghyfnod 1.

 


Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 26 – Deddfau’r Cynulliad

 

Cyfnod 1 – Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol

26.13 Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, neu 26.102, mae’r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2.

26.14 Os na fydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil o dan Reolau Sefydlog 26.11, 26.12, neu 26.102, mae’r Bil yn methu.

 

Biliau Pwyllgor

26.80[Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar XX XXXX XXXX]

28.81 Caiff unrhyw bwyllgor gyflwyno Bil pwyllgor sy’n ymwneud â chylch gorchwyl y pwyllgor.

 

26.82 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar XX XXXX XXXX]

 

26.83 [Dilëwyd y Rheol Sefydlog drwy benderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar XX XXXX XXXX]